Dydd Agored
  •
  
  DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2025
  •
  
  DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2024
  •
  
  DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2023
  •
  
  DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2022
  Oherwydd Covid-19 yn anffodus ni fu modd i ni 
  gynnal dydd agored yn 2020 nac yn 2021. 
  Hyderwn y byddem yn cynnal dydd agored ym mis 
  Medi 2022. 
  DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2019
  Cynhaliwyd diwrnod agored Cymdeithas Defaid 
  Mynydd Cymreig 2019 o dan nawdd cangen Sir 
  Ceredigion yn Tynant, Talybont, Aberystwyth, 
  Ceredigion ar ddydd Sadwrn 21ain o Fedi drwy 
  garedigrwydd Dilwyn, Marion, Rhydian, Elgan a’u 
  teuluoedd.  
  Maent yn ffermio 2,600 o erwau i gyd gyda’r buarth yn 
  mesur 650 o droedfeddi uwchlaw ‘r môr ac yn codi hyd 
  at 1750 o droedfeddi i bwynt uchaf y Fferm. Yno hefyd 
  mae capel Bethesda Tynant lle caiff gwasanaeth ei 
  gynnal unwaith y mis yn ystod tymor yr Haf. Bu iddynt 
  ennill cystadleuaeth y Byrnau Mawr trwy Gymru gyfan 
  yn y flwyddyn 2014 gan Gymdeithas Tir Glas Cymru, a 
  hefyd wedi derbyn y gilwobr yn 2019. Mae’r ddiadell yn 
  cynnwys 2000 o famogiaid ynghyd â 450 o ŵyn benyw 
  bob blwyddyn.  Croesir tua 500 o ddefaid gyda hwrdd 
  Texel a Primera i gynhyrchu wyn tewion. 
  Roedd yr haul yn tywynnu ar trefnu trylwyr wedi 
  sicrhau llwyddiant mawr ar y dydd. Croesawyd y dorf o 
  dros gant a hanner gan Mr Huw Davies, Llety Ifan Hen, 
  Cadeirydd Cangen Ceredigion a trosglwyddwyd yr 
  awenau i Mr Elgan Evans Tynant. Fe aethpwyd ar daith 
  ddiwylliannol amaethyddol 13 milltir o amgylch y fferm 
  a drwy diroedd anghysbell ardal Talybont ar sawl 
  tractor a thrailer.
  Yn gyntaf fe welwyd caeau cnwd gaeaf lle bydd y defaid 
  yn mynd i fwyta ar ôl eu sganio, yna ymlaen i Fynydd 
  Uchaf i weld 450 o ŵyn benyw. Yno hefyd gwelwyd 
  aelodau cangen Ceredigion yn gweithio Cwn Cymreig.  
  Aethpwyd ymlaen wedyn a thrwy ucheldir Cwm Ceulan 
  i Fwlchygarreg a gwelwyd Gwartheg Duon Cymreig 
  werth i’w gweld yn magu lloi charolais a Defaid Mynydd 
  yn eu cynefin ac heibio nifer o adfeilion. Aethpwyd 
  heibio Llyn Nantycagl, drwy coedwig Cyneiniog at yr 
  wyn gwryw. Yr arfer fydd gwerthu’r wyn yn dew i gyd i 
  ffwrdd ar laswellt i Dunbia drwy gynllun Cig Oen 
  Mynyddoedd y Cambrian. Mae hyn yn sicrhau cig 
  blasus. Gwelwyd hoel rheilffordd fach yr Hafan yn 
  arwain lawr at hen waith plwm Bwlch Glas cyn cyrraedd 
  Defaid Mynydd ym Mwlch Glas. Dychwelwyd i’r buarth 
  oddeutu 4:30 am wledd o gig oen mynydd rhost, 
  paned, cacen a sgwrs. Clowyd y dydd gan Gadeirydd y 
  pump Sir, Mr David Evans, Penyglog. 
  Hoffai’r gymdeithas ddiolch i Deulu Tynant a Cangen 
  Ceredigion am eu holl waith yn sicrhau diwrnod agored 
  llwyddiannus dros ben. 
  DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2018
  Cynhelir Diwrnod Agored y gymdeithas am eleni dan 
  nawdd cangen Sir Drefaldwyn ar fferm G Roberts, 
  Glanhafon Uchaf, Llangynog, Croesoswallt SY10 0HL ar 
  ddydd Sadwrn 29 Medi 2018 am 1.00 o’r gloch.
  Yn wahanol i’r arfer, fe fydd tri aelod yn cynnal y dydd 
  agored ar yr un fferm gan arddangos defaid y dair 
  ffarm. Yn ymuno â Mr Roberts a’i fab Emrys yn 
  Glanhafon Uchaf fydd Phil Morgan, Glanhafon Fach, 
  Llangynog SY10 0EW a Geraint Evans, Tŷ Mawr, 
  Llangynog SY10 0HD.
  Mae Glanhafon Uchaf yn fferm  300 cyfer, yn cynnal 
  diadell o 500 o ddefaid mynydd gan groesi 60 gyda 
  hwrdd Charollais. Yn cadw rhyw 20 hwrdd mynydd, 
  mae’r teulu yn gwerthu yr helyw o’r ŵyn tewion ym 
  marchnad Croesoswallt.
  Cedwir dros 500 o famogiaid yn bur yn Glanhafon Fach, 
  fferm yn ymestyn at 450 erw. Defnyddir hwrdd 
  Charollais ar 150 o ddefaid gan eu gwerthu fel cyplau 
  ym marchnad Ruthin ym mis Mai. Mae Mr Morgan yn 
  cadw 20 buwch sugno yn ychwanegol gan eu croesi 
  hefo tarw Belgian Blue.
  Yn Ty Mawr, mae diadell o 1,300 i gyd, gyda 700 yn cael 
  eu cadw’n bur a’r gweddil yn cael eu croesi gyda hwrdd 
  Charollais yma hefyd.
  Fe fydd y tri yn arddangos trawsdoriad o’u diadelloed 
  gyda 30 mamog, 30 dafad blwydd a 30 ŵyn benyw yn 
  ogystal a hyrddod, hyrddod blwydd ac ŵyn hyrddod.    
  •
  
  DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2017
   DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2016
  Cynhelir Diwrnod Agored y gymdeithas am eleni dan 
  nawdd cangen Sir Ddinbych yng Nghwm Geifr a 
  Blaencwm, Llanarmon Dyffryn Ceiriog ar ddydd Sadwrn 
  1af Hydref 2016 am 1.00 o’r gloch, drwy garedigrwydd 
  Glyn a Lynne Jones, Elgan a Cathy, Gethin a Sara a’u dwy 
  merch, Annes a Glesni Mai.
  Dylid ymgynull yn gyntaf yn Blaencwm am 1.00 o’r 
  gloch yn brydlon os gwelwch yn dda cyn symud ymlaen 
  i Gwm Geifr am 2.30pm. Mae Blaencwm rhyw dair 
  milltir a hanner i fyny o bentref Llanarmon DC. Rhaid 
  troi i’r chwith ar sgwar y pentref ar bwys tafarn yr Hand 
  os yn dod i lawr o gyfeiriad Llanrhaeadr ym Mochnant 
  ar hyd ffordd gul a throellog neu i’r dde ar y sgwar os yn 
  dod i fyny ar hyd y B4500 o gyfeiriad Y Waun, (neu 
  Chirk) a chario ymlaen ar hyd ffordd gul, Swch Cae 
  Rhiw. Fe fydd arwyddion i’ch helpu ond cofiwch peidio 
  ac aros yng Nghwm Geifr ond cario ymlaen am rhyw 
  filltir arall cyn troi i’r chwith ar ôl pasio hen gapel fydd 
  ar y dde i chi i gyfeiriad Blaencwm, sydd rhyw filltir eto i 
  fyny’r dyffryn. Blaencwm yw’r fferm olaf ar hyd y ffordd 
  honno. Mae’r ffordd yn aros yn gul ac fe ddylsech fod yn 
  ofalus i osgoi unrhyw anffawd
  Mae buarth Blaencwm rhyw 1,300 troedfedd uwchben 
  y môr yng Nghwm Llawenog, Dyffryn Ceiriog ac yn codi 
  hyd at 2,600 troedfedd i ben Cader Bronweh sydd ar y 
  Berwyn.  Mae’n ymestyn hyd at 1,500 o erwau gyda 200 
  erw ychwanegol o dir pori ar gael ar fynydd Blaenglyn. 
  Mae diadell o 1,200 o famogiaid yn cael eu magu, gyda 
  250 ohonynt yn cael eu croesi gyda hyrddod Texel ac 
  mae buches o rhyw 20 o wartheg duon Cymreig yn cael 
  eu cadw hefyd. Fe fydd mamogiaid, defaid dau ddant, 
  ŵyn benyw a hen hyrddod i’w gweld ym Mlaencwm.
  Yng Nghwm Geifr mae'r buarth tua 1,200 troedfedd 
  uwchben y mor, lle mae diadell oddeutu 1,000 o 
  famogiaid Cymreig a 300 o famogiaid croes. Mae'r 
  defaid Cymreig yn pori ar fynydd Tarw ar Swch sydd 
  rhyngddynt yn ymestyn i tua 1,500 o erwau ac yn codi i 
  2,200 troedfedd. Mae hefyd 200 erw o dir wedi ei wella 
  hefo 160 erw o dir Pentre Pant, sydd ar rent, yn tyfu 
  silwair ac yn cartrefu'r defaid croes ar gwartheg iau. 
  Mae 350 o’r mamogiaid Cymreig yn cael ei croesi gyda 
  hyrddod Charollais a Cheviot. Yn Cwm Geifr, cawn weld 
  hen hyrddod, hyrddod blwydd, ŵyn hyrddod, ŵyn 
  benyw heb eu dyfnu gyda’u mamau a defaid dau ddant a 
  mamogiaid eraill. Dosbarthir yr ŵyn mewn ffordd i weld 
  pa hyrddod fydd eu tadau.
  Gwerthir ychydig o ŵyn tewion y ddau le ar y bâch, un 
  ai i Randall Parker yn Llanidloes neu Dunbia yn 
  Llanybydder ond mae’r helyw yn cael eu gwerthu 
  drwy’r farchnad agored yng Nghroesoswallt a Ruthin 
  neu fel ŵyn stôr yn Ruthin neu Llanelwy.
  Darperir lluniaeth ysgafn yng Nghwm Geifr. Rydym yn 
  eich annog i fod yn brydlon ac i arddel gofal er mwyn 
  hwyluso’r trafeilio i Flaencwm ac yna yn ôl i Gwm Geifr 
  neu fe all greu problemau ar y ffyrdd cul.
  
  
 
  Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig © 2025                          
  Website designed and maintained by H G Web Designs
  
 
 
 
  Sylfaen y diwydiant defaid yng Nghymru
  # Dafad aml-bwrpas - ar fynydd neu lawr gwlad